Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Tachwedd 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6044
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 9. Ni ofynnwyd cwestiwn 4. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 i 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton?
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Gwnaeth Joyce Watson ddatganiad am - Nodi Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod (25 Tachwedd).
Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Gwaith Colegau Cymru a oedd yn 10 oed yr wythnos hon.
Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am - Addewid Plastig (rhan o ymgyrch Future Girl y Girlguides).
Dechreuodd yr eitem am 15.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7188 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;
b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol;
c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;
d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;
e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
20 |
14 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7193 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.
2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.
3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol';
b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu;
c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a phediatrig;
d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol a nifer yr achosion;
e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:
a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;
b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;
c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;
d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;
e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7193 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.
2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.
3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu
4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:
a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;
b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;
c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;
d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;
e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7195 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru:
(a) i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â 2013 mewn perthynas â cherbydau;
(b) i gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;
(c) i wneud cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn gwasanaeth o fis Ionawr 2020.
3. Yn mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
36 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.
2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.
3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.
5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
16 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva Cymru ers 2006.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
4 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7195 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.
2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.
3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.
5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
16 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.45
Daeth y cyfarfod i ben am 17.49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019